Cleddyf y Genedl

sword2Roedd 2004 yn flwyddyn bwysig iawn yng Nghymru; roedd hi'n chwe chanmlwyddiant sefydlu Senedd Owain Glyndŵr ym Machynlleth, yn ogystal a chanmlwyddiant seremoni ei goroni yn dywysog Cymru yn yr un dref. Fel rhan bwysig o goffad a dathliadau 1404 - 2004, cyflwynodd llysgehadaeth Glyndŵr Gleddyf y Genedl i bobl Machynlleth a Bro Ddyfi. Comisiynwyd y cleddyf unigryw yma yn arbennig ar gyfer yr achlysur a dyluniwyd hiar batrwm cleddyf a gyflwynwyd i Dywysog Owain Glyndŵr gan frenin Ffrainc ar achlysur y coroni yn 1404.

Cafodd Cleddyf y Genedl ei wneud a llaw yn null traddodaidol y Canol Oesoedd gan Jason Gardiner, y gof byd enwog o Ystradgynlais.

Cyflwynwyd fersiwn gwreiddiol Cleddyf y Genedl i Gyngor Tref Machynlleth gan Madame Claude Rapport, y Conswl Ffrengig Anrhydeddus, yn ystod Dathliadau 'Juratus Oweyn' ym mis Mehefin 2004, ac mae'n fwriad i'r cleddyf ffurfio rhan o'r arddangosfa yng Nghanolfan y Senedd-dŷ ym Machynlleth . Yn ogystal, gellir gweld replica trawiadol o'r cleddyf yng Ngefn Caer.