Straeon Gwerin

Morwyn Cefn Caer

Un tro, yr oedd morwyn brydferth yn byw yng Nghefn Caer ac fe ddisgynnodd dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad a dyn ifanc o'r ardal, ond nid oedd ei rhieni yn hoff ohono ac ni roddasant eu caniatâd i'r cwpl ifanc briodi. Ar õl llawer iawn o ddagrau ar ran y ferch, cafodd ei thad y syniad o osod tasg i'r dyn ifanc brofi faint yr oedd yn caru'r ferch. Fe heriodd y dyn i dreullio'r noson yn noeth ar fynydd Esgairweddan. Fe dderbryniodd y dyn ifanc yr her ond fe aeth â morthwyl pren a throsol gydag ef fel y gallai falu cerrig drwy'r nos er mwyn cadw'n gynnes. Yr oedd hi'n ganol gaeaf, ac er iddo gadw ei hun yn brysur yn torri cerrig, ni allai'r dyn ifanc beidio a chrynu, yr oedd ei ddannedd yn rhincian ac yr oedd yn cael trafferth gweithio gan fod ei fysedd yn fferru. Fe deimlai'n isel iawn nes iddo edrych i lawr o gopa'r mynydd tuag at Cefn Caer a gweld llygedyn o olau yn ffenestr llofft ei gariad. Yr oedd wedi cynnau cannwyll iddo ei weld, ac fe roddodd y golau hwn yr hwb iddo ddyfalbarhau â'i dasg.

Er mawr syndod i dad y ferch, fe ymddangosodd y dyn ifanc yng Nghefn Caer drannoeth ac fe orfodwyd iddo gadw ei addewid a gadael iddynt briodi.

Daeth y Nadolig ac fe ddisgwyliwyd gwesteion teuluol ar gyfer cinio Nadolog. Yr oedd yn afer teuluol iddynt ymddangos yn y gwasanaeth boreol yn y capel, felly fe ofynnodd y rhieni i'r ferch goginio'r ŵydd tra roeddent yn y gwasanaeth. Fe wyliodd y ferch y rhieni'n mynd ac yna fe osododd yr wydd yn un pen o'r tŷ neuadd chynnau cannwyll yn y pen arall. Pan ddychwelodd ei rhieni, yr oedd yr wydd, wrth gwrs, yn parhau heb ei choginio. Fe ofynasant iddi pam nad oedd hi wedi coginio'r wydd fel yr oeddent wedi gofyn iddi ei wneud, ac fe atebodd ei bod wedi rhoi'r un cyfle i'r wydd ag yr oedd wedi ei roi i'w chariad. Yn awr, drwy edrych ar yr ŵydd oer, fe wyddoch sut yr oedd ef wedi teimlo!


Os gŵyr unrhyw un am ragor o storϊau am Cefn Caer, cysylltwch â ni, ac fe wnawn ni eu gosod ar y dudalen yma.