| Caer Rufeinig Cefn Caer | |||
|
|
Mae dyddiad sefydlu caer Rufeinig Pennal yn fater dadleuol. Mae’n bosibl bod dyffryn Dyfi wedi ei feddiannu yn ystod daliadaeth y llywodraethwr Quintus Veranius c.A.D.57/58, ac mae’r darganfyddiad o ddwy botel gwydredd plwm o Ganolbarth Gâl o fewn haen ddistryw, yn awgrymu bod y feddianaeth, o bosib, wedi parhau tan ddechrau’r – 70au (Webster t. 114). Cynhaliwyd arolwg magnetometreg yn y flwyddyn 2000 lle defnyddiwyd gradiomedr fluxgate, arolwg a ddatgelodd fanylion am y gaer a’i hamddiffynfeydd “wedi eu gosod mewn tirun ehangach yn cynnwys nodweddion militaraidd a sifil fel ei gilydd” (Britannia 2001). Fe wnaeth yr arlowg gadarnhau llinell y ffordd sy’n rhedeg i’r dwyrain o’r gaer. Roedd hyn yn hysbys cynt oddi wrth olion cnydau mewn awyrluniau as fe ddangoswyd hefyd ddatblygiad hirgul o boptu’r ddwy ffordd sy’n arwain o brif glwydi’r gaer gan ymestyn am dros 220 o lathenni (200m) y tu draw i’r amddiffynfeydd. Adnabuwyd gwahanol nodweddion yn union o amgylch y gaer, gan gynnwys tŷ baddon, bedd crwn neu, efallai, greirfa ac rhywbeth sy’n ymaddangos fel petai’n blasty neu’n orsaf wyliadwriaeth yn perthyn i’r ymerodraeth. Roedd yna, yn ogystal, olion o faes paredio cyfagos. Roedd arwyddion o ddatblygu eang ar hyd llinellau’r ddwy ffordd gyda’r syrfewyr yn eu dehongli fel anheddiad ar ffurf ficws, yn cynnwys creirfa, tŷ baddon a hostel ymerodrol, ynghyd ag adeiladau “na wyddom eu swyddogaeth”. Fe ddaethpwyd i wybod am hyn i gyd heb hyd yn oed codi rhaw. Och! Rhyfeddodau archaeoleg fodern! Gellir dod o hyd i’r uchod – a llawer iawn mwy ar y cyfnod hwn, mewn hanes ar Roman Britian Mae arolygon topograffigol manwl wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer gweddillion gweladwy y rhan fwyaf o’r caerau atodol yng Ngwynedd sydd wedi goroesi, ac mae nifer ohonynt wedi eu cloddio. Yn y rhan fwyaf o achosion roedd y gwaith yn ymestyn cyn belled ag ymyl y gwrthgloddiau gweladwy yn unig. Mae llawer iawn o dystiolaeth wedi ei chasglu, yng Nghymru a thu hwnt, sy’n dangos na ddylid edrych ar gaerau Rhufeunig fel nodweddion sy’n sefyll ar pennau eu hunain yn y tirwedd, ond yn hytrach, dylid eu gweld fel canolfannau ardal ehangach o weithgaredd milwrol a sifil. Mae tystiolaeth ôl cnydau, cloddiadau achub a darganfyddiadau ar hap wedi datgelu presenoldeb gweddillion allanfurol mewn nifer o gaerau yng Ngywynedd, ond roedd y dystiolaeth, yn gyffredinol, yn dameidiog. Mae’r Prosiect Amgylchoedd Caerau Rhufeinig a ariannir gan Cadw yn anelu at ddod o hyd i wybodaeth ynghylch amgylchoedd caerau gan ddefnyddio arolwg gradiomedfr fluxgate. MaeYmddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi gwneud arolygon yn y safleoedd canlynol hyd yn hyn: Cefn Caer (Pennal), Caer Gai (Llanuwchllyn), Pen Llystyn (Bryncir), Caer Llugy (Capel Curig) a Chanovium (Caerhun) Mae’r arolygon wedi cynhyrchu cyfoeth o wybodaeth newydd am y caerau a’u hamgylchoedd. Mae’r canlyniadau o’r gaer yng Nghefn Caer, Pennal, nad oedd wedi ei harchwilio rhyw lawer yn flaenorol, yn arbennig o addysgiadol, gan ddangos manylion am y gaer a’r hamddiffyniadau mewn tirwedd ehangach sy’n cynnwys nodweddion milwrol a sifil fel ei gilydd, gan gynnwys ficws ochr a’r ffordd yng ngogledd ddwyrain y gaer (gweler y ffigur). Yng Nghefn Caer, gellir hefyd weld arddangosfa ardderchog o fasys Rhufeinig ac arteffactau hanesyddol eraill daethpwyd o hyd iddynt ar y tir. |
||
| Hosted & Design by CCW Solutions Ltd | |||