| Cleddyf y Genedl | |
|
|
Cafodd Cleddyf y Genedl ei wneud a llaw yn null traddodaidol y Canol Oesoedd gan Jason Gardiner, y gof byd enwog o Ystradgynlais. Cyflwynwyd fersiwn gwreiddiol Cleddyf y Genedl i Gyngor Tref Machynlleth gan Madame Claude Rapport, y Conswl Ffrengig Anrhydeddus, yn ystod Dathliadau ‘Juratus Oweyn’ ym mis Mehefin 2004, ac mae’n fwriad i’r cleddyf ffurfio rhan o’r arddangosfa yng Nghanolfan y Senedd-dŷ ym Machynlleth . Yn ogystal, gellir gweld replica trawiadol o’r cleddyf yng Ngefn Caer. |
| Website Designed by Wales Web Hosting part of the Computersurgeon group | |