Coron Glyndŵr

 

External Links

 

Coron Glyndŵr – Symbol o Sofraniaeth

Yn dilyn cyflwyno Cleddyf y Genedl  i Fachynlleth a Bro Ddyfi yn 2004, cynhaliwyd seremonicrown bwysig arall ar Lawnt y Senedd ar safle Canolfan Senedd-dŷ Glyndŵr ar 21 Mehefin 2007– Dydd Y Senedd.  Diben y seremoni hon oedd galluogi Llysgenhadaeth Glyndŵr i gyflwyno Coron Glyndŵr, y symbol o’n sofraniaeth fythol fel cenedl, i Elfyn Rowlands, Cefn Caer, sydd wedi ei ddewis fel ‘Ceidwad y Goron’ ar gyfer y dyfodol.

Mae’r goron aur ac arian ysblennydd hon wedi cael ei dylunio a’i llunio â llaw yn yr un dull a fyddai wedi ei ddefnyddio i lunio coron tebyg ar gyfer seremoni coroni Owain Glyndŵr yn dywysog Cymru ar 21 Mehefin 1404.  Nodwedd ddiddorol yw fod bolltau yn amgygylchynu’r goron hon.  Arferid folltio coronau ar helmedau yn ystod brwydrau yn y Canol Oesoedd.crown

Noddwyd a lluniwyd y goron gan yr eurof a’r gwladgarwr y diweddar A.H. Lewis, a fu’n adnabyddus am lunio dros 30 o goronau eisteddfodol, dwy ohonynt ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.  Dyletswydd Ceidwad Coron Glyndŵr  fydd i ddod a’r goron i Lawnt y Senedd, Machynlleth ar 21 Mehefin – Dydd y Senedd – yn flynyddol, fel y gellir ei dangos i’r genedl, mewn seremoni ddynodedig, fel symbol o’n sofraniaeth

Mae Cleddyf y Genedl (gweler tudalen Cleddyf y Genedl) a Choron Glyndŵr yn rhan o ymgyrch Llysgebhadaeth Glyndŵr i adfer trysorau Cymru, gan fod y rhai gwreiddiol naill ai wedi cael eu dwyn yn ystod concwest 1282 – 83, neu wedi cael eu colli mewn ffrydd eraill dros y canrifoedd.

 
 
  Hosted & Design by CCW Solutions Ltd