Tu mewn i Gefn Caer

 

External Links

 

Mae Cefn Caer yn adeilad rhestredig gradd 2* ac yn Dŷ Neuadd Canoloesol Sy’n dyddio o gynfod cyn y 15 ganrif.  Mae wedi’i leoli ym Mhennal, ger Machynlleth, Powys.  Mae’r Tŷ Neuadd hwn, sy’n sefyll ar fryncyn sy’n edrych dros bentref Pennal a’r cefn gwlad o’i interioramgylch, wedi cael ei adeiladu ar caer Rufeinig o’r ganrif gyntaf, mewn ardal sy’n gyforiog o hanes a llĕn gwerin hynafol.  Mae’r safle gwta 5 milltir o Fachynlleth a 7 Milltir o Aberdyfi, a gellir dod o hyd iddo wrth deithio ar yr A493 rhwng Machynlleth ac Aberdyfi.

Unwaith y byddwch chi y tu mewn i waliau Cefn Caer, gallwch synhwyro ar unwaith eich bod wedi teithio yn õl mewn amser.  Yn y lleoliad, ceir y paredau gwreiddiol, cyntedd sgrin, a phentan cilfach o’r 14 ganrif gyda phopty bara bwa maen dwbl wedi’i gosod ynddo.  Yn y tŷ hefyd ceir pentan cilfach arall o’r 15 ganrif gyda phopty bara o’r 17 ganrif wed’i gosod ynddo.  Heb amheuaeth, byddai’r popty, sy’n dyddio o’r 14 ganrif, wedi pobi bara ar gyfer bwrdd y tywysog Owain Glyndŵr ar yr achlysuron hynny pan fyddai ef a’i swyddogion wedi defnyddio’r tŷ neuadd hwn fel canolfan a man aros..

Agwedd drawiadol arall ar Cefn Caer riels neuadd yw’r riels y’n ymestyn i’r dde o’r pareddias.  Mae’r oriel yn cael ei defnyddio’n helaeth yn awr fel llwyfan i’r canwr baledi ar yr achlysuron hynny pan fydd gwleddoedd canoloesol yn cael eu cynnal yn y tŷ.

Mae’r nenfwd tawlbwrdd cain trawiadol yn dangos bod Cefn Caer wedi cadw ei statws bonheddig ymhell i gyfnod diweddarach, ac fel y gallwn dystio, mae’r tŷ neuadd ysblennydd hwn wedi goroesi – gan gadw ei holl urddas hyd heddiw, a hir y parhaed i gadw a chyflwyno ei hanes am genedlaethau i ddod.

 
 
  Hosted & Design by CCW Solutions Ltd